Hyppo education lead Dr Emily Preedy appeared on BBC Wales Yfory Newydd on Sunday 9th Feb to talk about the benefits of hydrogen technology and the work of Hyppo Hydrogen Solutions. At 15:30, the discussion on hydrogen begins, with Hyppo being mentioned at 15:42, as part of a broader conversation highlighting various companies across the UK already utilizing hydrogen technology. Guto Owen takes the floor at 16:40 to provide insights about HyCymru, followed by a mention of William Robert Grove at approximately 18:20. While the mention of Grove may seem amusing, Emily took the opportunity to emphasize Hyppo’s role in establishing itself as a hydrogen hub, dedicated to supporting and advising companies in the development of hydrogen technologies.
You can catch it here

Cyfres sy’n canolbwyntio ar ymdrechion gwyddonwyr Cymru sydd â’u bryd ar greu yfory gwell, gan geisio ateb rhai o’n problemau mwyaf dyrys a chanfod atebion i gwestiynau mwyaf heriol y bydysawd.
Mae’r cyflwynydd Elin Rhys yn cyfarfod â gwyddonwyr yn eu labordai neu wrth eu gwaith maes er mwyn deall mwy am sut a pham maen nhw’n buddsoddi amser ac egni yn ymchwilio. Mae hi hefyd yn adolygu straeon am waith ymchwil hollol newydd o’r wasg wyddonol yng nghwmni newyddiadurwr y Conversation – Siriol Griffiths, ac hefyd yn edrych yn ôl ar rai o wyddonwyr y gorffennol sydd wedi ysbrydoli rhai o’n gwyddonwyr presennol mwyaf blaenllaw.
Yn y rhaglen gyntaf mae Elin yng nghwmni Dr Robert Deaves – yn wreiddiol o Borthaethwy – sydd wedi dyfeisio robotiaid i lanhau carpedi, a cheir i yrru ar eu pennau eu hunain. Yn beiriannydd sydd yn arloesi yn y maes mae’n disgrifio sut mae dyfeisiadau fel hyn yn gweithio.
Byddwn yn ymweld â diwrnod agored cwmni Hyppo yn Abertawe wrth iddyn nhw arddangos cerbydau sy’n rhedeg ar Hydrogen a bydd Dr Guto Owen a Dr Emily Preedy yn sôn am y manteision er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Yn straeon y wasg, Siriol sy’n sôn am ymchwil newydd i droi bara gwastraff yn fwyd maethlon llawn protein – ac ymchwil sy’n dangos y tebygolrwydd eich bod yn yfed gormod drwy fesur hyd eich bysedd.
Ac i gloi Athro Eleri Pryse sy’n sôn am ei harwr, y seryddwr a’r Parchedig Silas Evans – awdur llyfr seryddiaeth Cymraeg nôl yn y 1800au.