H2Bay Hydrogen Expo and Demonstration Day at Swansea Bay

(CYMRAEG A SAESNEG / WELSH AND ENGLISH)

A large scale Hydrogen powered technology exhibition and demonstration will be taking place at Bay Studios in the Swansea bay on 18th July.

Organised by Hyppo, a company aiming to promote new ways in which Hydrogen can decarbonise our energy system across a range of different sectors, the H2Bay Expo and Demonstration Day is aimed at attracting companies and industry leaders from across the South West of England and Wales.

On display will be a whole range of different hydrogen powered apparatus from cars, trucks and buses, to construction equipment, and film production equipment aimed at reducing the carbon footprint of the areas growing media sector.  There will even be live music by a local band whose equipment will be powered by Hydrogen and a Hydrogen powered barbeque providing food for attendees.

The event will also be an opportunity for companies to meet the creators of these new solutions and find out how they can start to incorporate them into their businesses.

Chris Foxall, CEO of Hyppo Hydrogen Solutions, said: “The H2Bay Expo is a pivotal event for the hydrogen industry, providing a platform to showcase the transformative potential of hydrogen technology. We are excited to demonstrate how commercially available hydrogen-powered vehicles and equipment can drive the region toward a more sustainable future.”

Roy Thomas, owner of Bay Studios, said: “Bay Studios is proud to host this ground-breaking event, which will highlight our commitment to decarbonising the filming and transportation sectors. We see this as the future of sustainable film production which will bring exciting new projects to the area. We look forward to welcoming attendees from across South Wales and beyond.”

This event follows the Western Gateway’s Hydrogen Gateway event last summer.  This brought together industry with leading researchers to understand how the region can become the UK’s first Hydrogen Super Cluster pioneering low carbon solutions for the area’s heavy industry and aviation sectors to protect livelihoods and create new secure jobs for the 21stcentury.

The Western Gateway is the Pan-Regional Partnership for South Wales and Western England. Bringing together 28 local authorities from St Davids to Swindon, the partnership looks to attract new investment and support innovation to drive economic growth and create a fairer, greener future.

Sarah Williams-Gardener, Chair of the Western Gateway Partnership, said: “I am very glad to be able to support this event which is being arranged by Hyppo.  At the Western Gateway we’ve identified a wide range of companies and organisations who are pioneering the use of Hydrogen as a potential energy source to decarbonise a wide range of sectors right across South Wales and Western England.

“The sheer breadth of different organisations looking at Hydrogen makes us unique in the UK and gives us an opportunity to become a world leader in pioneering this energy source.  Working with our colleagues at the Great Western Supercluster of Hydrogen Impact for Future Technologies (GW-SHIFT) we will continue to look at how together we can overcome barriers to ensure Hydrogen can be an option for those businesses who would struggle to decarbonise without it.”

Registration link: hyppo.co.uk/expo

Ends

Notes to editors:

Date: 18th July 2024

Location: Bay Studios, Swansea. Free car parking available.

Event Highlights:

– Hydrogen Vehicle Demonstrations: Attendees will have the opportunity to witness live demonstrations of fuel cell buses, cars, and commercial vehicles. These cutting-edge vehicles showcase the efficiency and environmental benefits of hydrogen as a clean low carbon fuel.

– Construction Equipment Display: The Expo will feature some of the latest hydrogen-powered construction and goods handling equipment, such as forklifts, generators and welfare units, highlighting the potential for hydrogen to revolutionise the construction industry by reducing carbon emissions and promoting sustainable practices.

– Film Equipment Exhibition: Demonstrations of hydrogen-powered film production ancillary equipment such as generators and lighting towers will reveal how the entertainment industry can leverage hydrogen technology to achieve greener productions while simultaneously reducing noise pollution.

– Networking Opportunities: The H2Bay Expo will serve as a premier networking platform for businesses and professionals within the hydrogen sector. Attendees can connect with like-minded companies, exchange ideas, and explore potential collaborations.

– Other Demonstrations: There will be a music stage powered by hydrogen that will feature a local band performing live, a hydrogen barbeque as well as a catering van running on a hydrogen generator.  There will also be an educational demonstration that is regularly delivered to classrooms in local schools.  The National Physics Laboratory will also be demonstrating how they test the refuelling stations to ensure the purity of the fuel being dispensed.

**About H2Bay**

H2Bay is the UK’s first comprehensive hydrogen ecosystem that goes beyond just the use of hydrogen as a fuel.  In addition to its role as a transport hub for private hire, community vehicles and buses, H2Bay based at Bay Studios offers office space for companies looking to deploy hydrogen products and services into the Western Gateway region.  It’s also a start-up incubator for companies looking to be immersed in hydrogen economy activity.  H2Bay has onsite refuelling for vehicles and access to innovation and manufacturing space.  There are strong links with academia for collaborative R&D opportunities and skills and training organisations ensuring the whole economy is supported for scaling up.

Arddangosfa Hydrogen H2Bay a Diwrnod Arddangos ym Mae Abertawe

Bydd arddangosfa technoleg sy’n cael ei bweru gan hydrogen ar raddfa fawr, yn cael ei gynnal yn Stiwdios y Bae, Ffordd Fabian,  Abertawe ar 18 Gorffennaf.

Wedi’i drefnu gan Hyppo, sef cwmni sy’n anelu at hyrwyddo ffyrdd newydd y gall Hydrogen ddatgarboneiddio ein system ynni ar draws ystod o wahanol sectorau, mae Diwrnod Arddangos H2Bay wedi’i anelu at ddenu cwmnïau ac arweinwyr diwydiant o bob rhan o Dde Orllewin Lloegr a Chymru.

Bydd ystod eang o wahanol gyfarpar sy’n cael ei bweru gan hydrogen yn cael eu harddangos, o geir, tryciau a bysiau, i offer adeiladu, ac offer cynhyrchu ffilmiau (gyda’r nod o leihau ôl troed carbon y sector cyfryngau sy’n tyfu).  Bydd hyd yn oed cerddoriaeth fyw gan fand lleol a bydd eu hoffer yn cael ei bweru gan Hydrogen a barbeciw wedi’i bweru gan Hydrogen yn darparu bwyd i’r mynychwyr.

Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gwmnïau gwrdd â chrewyr y datrysiadau newydd hyn a darganfod sut y gallan nhw ddechrau eu defnyddio yn eu busnesau.

Dywedodd Chris Foxall, Prif Swyddog Gweithredol Hyppo Hydrogen Solutions: “Mae’r H2Bay Expo yn ddigwyddiad hollbwysig i’r diwydiant hydrogen, gan ddarparu llwyfan i arddangos potensial trawsnewidiol technoleg hydrogen. Rydym yn gyffrous i ddangos sut y gall cerbydau ac offer sy’n cael eu pweru gan hydrogen sydd ar gael yn fasnachol, yrru’r rhanbarth tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”

Dywedodd Roy Thomas, perchennog Bay Studios: “Mae Bay Studios yn falch o gynnal y digwyddiad arloesol hwn, a fydd yn amlygu ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio’r sectorau ffilmio a chludiant. Rydym yn gweld hyn fel dyfodol cynhyrchu ffilm cynaliadwy a fydd yn dod â phrosiectau newydd cyffrous i’r ardal. Edrychwn ymlaen at groesawu mynychwyr o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt.”

Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn digwyddiad Porth Hydrogen Porth y Gorllewin yr haf diwethaf.  Daeth hyn â diwydiant ac ymchwilwyr blaenllaw at ei gilydd i ddeall sut y gall y rhanbarth ddod yn Glwstwr Gwych Hydrogen cyntaf y DU sy’n arloesi gyda datrysiadau carbon isel ar gyfer sectorau diwydiant trwm a hedfanaeth yr ardal i ddiogelu bywoliaethau a chreu swyddi diogel newydd ar gyfer yr 21ain ganrif.

Y Porth Gorllewinol yw’r Bartneriaeth Traws-ranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr. Gan ddod â 28 o awdurdodau lleol o Dyddewi i Swindon ynghyd, mae’r bartneriaeth yn ceisio denu buddsoddiad newydd a chefnogi arloesedd i ysgogi twf economaidd a chreu dyfodol tecach, gwyrddach.

Dywedodd Sarah Williams-Gardener, Cadeirydd Partneriaeth Porth y Gorllewin: “Rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r digwyddiad hwn sy’n cael ei drefnu gan Hyppo. Ym Mhorth y Gorllewin rydym wedi nodi ystod eang o gwmnïau a sefydliadau sy’n arloesi yn y defnydd o Hydrogen fel ffynhonnell ynni bosibl i ddatgarboneiddio ystod eang o sectorau ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr.

“Mae ehangder y gwahanol sefydliadau sy’n edrych ar Hydrogen yn ein gwneud ni’n unigryw yn y DU ac yn rhoi cyfle i ni ddod yn arweinydd byd o ran arloesi gyda’r ffynhonnell ynni hon. Gan weithio gyda’n cydweithwyr yn Uwch-glwstwr Effaith Hydrogen ar gyfer Technolegau’r Dyfodol y Great Western (GW-SHIFT) byddwn yn parhau i edrych ar sut y gallwn gyda’n gilydd oresgyn rhwystrau i sicrhau y gall Hydrogen fod yn opsiwn i’r busnesau hynny a fyddai’n cael trafferth datgarboneiddio hebddo. ”

Dolen gofrestru: hyppo.co.uk/expo

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Dyddiad: 18 Gorffennaf 2024

Lleoliad: Bay Studios, Abertawe. Parcio am ddim ar gael.

Uchafbwyntiau’r Digwyddiad:

– Arddangosiadau Cerbydau Hydrogen: Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i weld arddangosiadau byw o fysiau celloedd tanwydd, ceir a cherbydau masnachol. Mae’r cerbydau blaengar hyn yn arddangos manteision effeithlonrwydd ac amgylcheddol hydrogen fel tanwydd carbon isel glân.

– Arddangosfa Offer Adeiladu: Bydd yr Expo yn cynnwys rhai o’r offer adeiladu a thrin nwyddau diweddaraf sy’n cael ei bweru gan hydrogen, megis fforch godi, generaduron ac unedau lles, gan amlygu’r potensial i hydrogen chwyldroi’r diwydiant adeiladu trwy leihau allyriadau carbon a hyrwyddo arferion cynaliadwy.

– Arddangosfa Offer Ffilm: Bydd arddangosiadau o offer ategol cynhyrchu ffilm sy’n cael ei bweru gan hydrogen fel generaduron a thyrau goleuo yn datgelu sut y gall y diwydiant adloniant drosoli technoleg hydrogen i gyflawni cynyrchiadau gwyrddach wrth leihau llygredd sŵn ar yr un pryd.

– Cyfleoedd Rhwydweithio: Bydd yr H2Bay Expo yn gweithredu fel prif lwyfan rhwydweithio ar gyfer busnesau a gweithwyr proffesiynol yn y sector hydrogen. Gall mynychwyr gysylltu â chwmnïau o’r un anian, cyfnewid syniadau, ac archwilio cydweithrediadau posibl.

– Arddangosiadau Eraill: Bydd llwyfan cerddoriaeth wedi’i bweru gan hydrogen a fydd yn cynnwys band lleol yn perfformio’n fyw, barbeciw hydrogen yn ogystal â fan arlwyo yn rhedeg ar eneradur hydrogen. Bydd hefyd arddangosiad addysgol a gyflwynir yn rheolaidd i ystafelloedd dosbarth mewn ysgolion lleol. Bydd y Labordy Ffiseg Cenedlaethol hefyd yn dangos sut maen nhw’n profi’r gorsafoedd ail-lenwi â thanwydd i sicrhau purdeb y tanwydd sy’n cael ei ddosbarthu.

**Am H2Bay**

H2Bay yw ecosystem hydrogen gynhwysfawr gyntaf y DU sy’n mynd y tu hwnt i ddefnyddio hydrogen yn unig fel tanwydd. Yn ogystal â’i rôl fel canolbwynt trafnidiaeth ar gyfer hurio preifat, cerbydau cymunedol a bysiau, mae H2Bay sydd wedi’i leoli yn Bay Studios yn cynnig gofod swyddfa i gwmnïau sy’n dymuno defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau hydrogen i ranbarth Porth y Gorllewin. Mae hefyd yn ddeorydd cychwynnol i gwmnïau sydd am gael eu trochi mewn gweithgaredd economi hydrogen. Mae gan H2Bay ail-lenwi â thanwydd ar y safle ar gyfer cerbydau a mynediad i ofod arloesi a gweithgynhyrchu. Mae cysylltiadau cryf â’r byd academaidd ar gyfer cyfleoedd ymchwil a datblygu cydweithredol a sefydliadau sgiliau a hyfforddiant sy’n sicrhau bod yr economi gyfan yn cael ei chefnogi i ehangu.

CYFLE I GAEL CYFWELIADAU YN Y GYMRAEG A’R SAESNEG / OPPORTUNTIES FOR INTERVIEWS IN WELSH AND ENGLISH

Cysylltu / Contact;

info@hyppo.co.uk